Petronius Maximus | |
---|---|
Ganwyd | c. 396 Rhufain |
Bu farw | 31 Mai 455 o llabyddiad Rhufain |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Western Roman emperor, seneddwr Rhufeinig, Praefectus urbi, Conswl Rhufeinig |
Tad | Anicius Probinus |
Priod | Licinia Eudoxia, Volusiana |
Plant | Palladius |
Llinach | Llinach Theodosius |
Roedd Petronius Maximus (c. 396 – 22 Ebrill 455) yn Ymerawdwr Rhufeinig yn y gorllewin am ran o'r flwyddyn 455.
Roedd Petronius o dras seneddol. Bu'n gweithredu fel praetor tua 411; yna fel tribunus et notarius tua 415 a Comes sacrarum largitionum (Cownt y Rhoddion Sanctaidd) rhwng 416 a 419. Bu'n gonswl yn 433 a 443.
Roedd gelyniaeth rhwng Petronius a Aëtius, cadfridog mwyaf amlwg yr ymerodraeth. Dywed Ioan o Antioch iddo ef a'r eunuch Heraclius berswadio'r ymerawdwr Valentinian III i ladd Aëtius. Yn ôl Ioan, Petronius hefyd oedd yn gyfrifol am berswadio Optila a Thranstila i lofruddio Valentinian III ei hun ar 16 Mawrth, 455.
Yn dilyn y llofruddiaeth, llwyddodd Petronius Maximus i gipio grym a gorfodi'r ymerodres Licinia Eudoxia i'w briodi. Wedi dod yn ymerawdwr, penododd Avitus fel Magister militum a'i yrru i Toulouse i geisio cefnogaeth y Fisigothiaid. Fodd bynnag, cyn iddo gyrraedd clyweyd fod Gaiseric, brenin y Fandaliaid, wedi cyrraedd yr Eidal. Creodd hyn ddychryn mawr yn Rhufain, a lladdwyd Maximus, un ai gan y dorf neu gan filwr o'r enw Ursus.
Dri diwrnod ar ôl marwolaeth Maximus, ar 22 Ebrill, cipiwyd dinas Rhufain gan Gaiseric.
Rhagflaenydd: Valentinian III |
Ymerodron Rhufain | Olynydd: Avitus |